Home » Amdanom ni

Amdanom ni

Caerffair Nursery

Mae Cae’r Ffair yn feithrinfa dan berchnogaeth breifat a leolir tu allan i Lanelli yng Ngorslas. Ein nod yw darparu gofal plant o’r safon uchaf ac addysg ar gyfer plant o 3 mis oed hyd at 5 mlwydd oed. Gwnawn hyn drwy adeiladu ar sylfaen o wybodaeth a phrofiad a darparu cyfleuster addysgu diogel sydd nid yn unig yn gwella datblygiad ond yn hwyl a sbri gan y gwyddwn pa mor bwysig a gwerthfawr yw eich rhai bach i ni.

Cyflogir 14 o staff cymwysedig gan y feithrinfa, sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, mae’r rhan helaeth ohonynt wedi bod gyda ni ers y cychwyn. Mae eu cymwysterau yn amrywio o  NNEB, NVQ Lefel 3/4/5, i radd. Mae ein holl staff yn unigolion ymroddedig sy’n cyd weithio fel tîm i greu amgylchedd hapus a chartrefol. Mae gennym gogydd cymwysedig sy’n darparu prydau ffres, maethlon ac iachus pob dydd. Gallwch weld ein bwydlenni drwy glicio yma.

Room_Photos_for_website_025