Home » Education

Education

Addysgwn y plant drwy eu dysgu’r 7 Maes Dysgu (gwelir y restr isod), trwy amrywiol weithgareddau a gemau mewn awyrgylch hamddenol. Mae hyn yn helpu’r plant i ddatblygu yn eu hamser eu hunain, drwy eu paratoi ar gyfer ysgol gan roi iddynt sylfaen i ddysgu.

pic1

Datblygu’r Gymraeg

pic2

Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol

pic3Datblygiad Mathemategol

pic4Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

pic5Datblygiad Corfforal

pic6Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd

pic7Datblygiad Creadigol

Gweithredir rhain drwy weithgareddau hwylus cyffrous, lle roddir cyfle i’r plant i archwilio a phrofi profiadau trwy’r amser.
Mae curriculum Y Cyfnod Sylfaen wedi ei strwythuro i gwrdd ag anghenion amrywiol y plant, mae ein gweithgareddau pwrpasol a gynlluniwyd yn dda yn eu cynorthwyo yn y broses o ddysgu drwy chwarae.
Mae ein holl waith celf a arddangosir wedi ei greu gan ein plant.

Defnyddiwn nifer o raglenni addysgol eraill megis Jambori sy’n darparu sesiynau Cerddoriaeth a Symud i blant cyn oed ysgol drwy Hwiangerddi, Caneuon Symud, offerynnau cerdd, propiau a gemau i helpu’r plant ddatblygu eu sgiliau siarad a gwrando, cydsymud, creu a chymdeithasol.

Sesiwn diweddar Jambori ym Meithrinfa Cae’r ffair.